Pwy ydym ni

Alaw Griffiths
Rheolwr Digwyddiadau a Priodasau

Mae Alaw wedi gweithio ym myd trefnu digwyddiadau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata ers dros ddegawd. Mae wedi teimlo’n angerddol am waith cynllunio a threfnu dathliadau erioed, a does dim yn well ganddi na gweld ei theulu helaeth yn dod at ei gilydd i fwynhau eu hunain. Wrth drefnu ei phriodas ei hunan gyda dros 200 o westeion, sylweddolodd bod creu diwrnod mor fawr a phwysig fod yn straen, yn enwedig gyda phwysau gwaith llawn amser, teulu a bywyd bod dydd. Sefydlodd Priodasau Calon er mwyn helpu cyplau i fwynhau’r hwyl o drefnu eu diwrnod arbennig ac i leihau’r straen.

Mae ei phrofiad proffesiynol yn cynnwys gweithio i amrywiaeth eang o fusnesau a sefydliadau fel cwmni ymgynghori cyfathrebu Momentwm, Theatr Felinfach a Chyngor Llyfrau Cymru. Mae wedi trefnu digwyddiadau mawr fel Sioe Briodas Aberystwyth, ac wedi arwain trefnu digwyddiadau yng Nghastell Aberteifi, Tynrhyd Retreat a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd i raglen S4C Priodas Pum Mil. Mae wedi hyfforddi gyda’r UK Alliance of Wedding Planners.

Yn ei hamser sbâr mae Alaw wrth ei bodd yn treulio amser gyda ei gŵr a’u dau o blant ifanc a’u ffrindiau.

Dil Lewis
Cynorthwy-ydd Creadigol Priodasau a Digwyddiadau

Fel gwniyddes cymwysedig a ddechreuodd ei gyrfa fel cynorthwyydd yn Browns of Chester mae Dil yn adnabod y diwydiant ffasiwn o’r bôn i’r brig.

Symudodd i weithio i’r dylunydd ffasiwn Cymreig Pauline Wynne Jones a oedd yn cyflenwi yn uniongyrchol i rai o’r enwau mwyaf yn y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau.

Cafodd seibiant o’i gyrfa er mwyn magu teulu ac yna aeth i’r Brifysgol a graddio ag anrhydedd mewn dylunio trwy gyfrwng gwydr.

Trwy gydol ei gyrfa mae wedi cyfuno dylunio creadigol gyda dealltwriaeth ymarferol o sut i ddod a syniadau yn fyw. Mae’r sgiliau creadigol ac ymarferol yma nawr ar gael i chi ar un o ddiwrnodau pwysicaf eich bywyd.

Nicola Meredith
Cynorthwy-ydd Priodasau a Digwyddiadau

Mae Nicola yn cynorthwyo Alaw mewn priodasau a ffeiriau priodas, a gyda threfniadau Sioe Briodas Aberystwyth.

Yn y gorffennol, mae wedi trefnu ac arwain digwyddiadau a theithiau yn ystod ei gwaith gofal plant, ac hefyd rhai digwyddiadau codi arian fel rhan o’i gwaith cyfredol.

Yn ei hamser sbar mae’n hoffi cerdded, gwylio cyfresi teledu, a threfnu teithiau gyda theulu a ffrindiau.

Hywel Griffiths
Bardd

Uwch-ddarlithydd mewn daearyddiaeth ffisegol yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth yw Hywel yn ei waith bob dydd, ond yn ei amser sbâr mae’n ysgrifennu barddoniaeth.

Enillodd y gadair a’r goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol (2008 a 2015) a chyrhaeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Banerog, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2010.

Mae wedi bod yn ysgrifennu cerddi ar gyfer achlysuron arbennig ers dros 15 mlynedd.