Amdanom ni

priodasaucalon-heleddroberts-5Cwmni trefnu priodasau a digwy ddiadau ifanc yw Priodasau Calon, a sefydlwyd yn 2013 gan Alaw Griffiths, gyda help ei man, Dil a’i gŵr, Hywel. Ein nod yw i’ch helpu i wireddu eich breuddwydion ar ddiwrnod eich priodas. Yn ogystal â bod yn brofiad anhygoel, o ddewis y lleoliad perffaith i ganfod y manion holl-bwysig, ry’n ni’n gwybod bod cynllunio priodas fythgofiadwy yn waith caled.Efallai eich bod yn rhy brysur i gynllunion holl elfennau eich priodas, neu bod angen ychydig o gyngor creadigol arnoch oddi wrth bobl proffesiynol â phrofiad yn y maes. Beth bynnag sydd ei angen arnoch, ry’n ni’n barod i helpu ym mha bynnag ffordd allwn ni. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys ystod eang o becynnau cynllunio priodas, gan gynnwys gwasanaeth pwrpasol sydd yn darparu ar gyfer anghenion priodferched a phriodfeibion unigol, trefnu digwyddiadau, gan gynnwys ffeiriau priodas a diwrnodau agored, a chyfansoddi barddoniaeth bwrpasol ar gyfer priodasau.

Gan adeiladu ar brofiad degawd o drefnu digwyddiadau mae Priodasau Calon wedi trefnu ffeiriau priodas mewn nifer o leoliadau unigryw a nodedig ar dras Cymru, o Gastell Aberteifi i Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, yn ogystal â mewn gwestai poblogaidd. Mae Sioe Briodas Aberystwyth, a gynhelir yng Nghanolfan y Celfyddydau wedi datblygu yn un o ffeiriau priodas mwyaf canolbarth Cymru, mae galw mawr am lefydd arddangos ac mae’r nifer o ymwelwyr yn uwch na sioeau priodas arferol. Ry’n ni hefyd yn gweithredu fel cydlynwyr priodas ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Tynrhyd Retreat ac fel ymgynghorwyr ar gyfer rhaglen cynllunio priodas S4C Priodas Pum Mil, a gynhyrchir gan Boom Cymru ac a ddarlledir yn fuan.

Ger Aberystwyth mae ein cwmni wedi ei sefydlu, ond rydym yn gweithio ar hyd a lled Cymru. Ry’n ni’n unigryw yn y sector oherwydd ry’n ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i gleientiaid. priodasaucalon-heleddroberts-152Mae’r gwasanaeth ysgrifennu barddoniaeth bwrpasol hefyd yn nodedig. Ysgrifennir y cerddi gan y Prifardd Hywel Griffiths (gŵr Alaw) ac yn y gorffennol mae wedi ysgrifennu cerddi i’w rhoi fe anrhegion i rieni’r pâr priod, cerddi i’w darllen yn y gwasanaeth, a cherddi i’w cynnwys mewn gwahoddiadau. Dylunnir a fframir pob cerdd mewn modd nodedig a phroffesiynol gan ddylunwyr ac orielau lleol. Mae hyn yn enghraifft o’r rhwydweithiau o gwmnïau bach, annibynnol y mae Priodasau Calon wedi eu sefydlu.

Mae natur unigryw a phroffesiynol Priodasau Calon, yn ogystal ag ein ymrwymiad a’r ffaith ein bod yn talu sylw i bob manylyn wedi cael ei nodi gan sylwadau oddi wrth briodferched a phriodfeibion ac arddangoswyr mewn ffeiriau priodas, yn ogystal â gan wobrau ac enwebiadau yng Ngwobrau Priodas Cenedlaethol Cymru (Enillydd – Gwasanaeth Newydd, rhanbarthol, 2013; Rhestr Fer – Gwasanaeth Gorau 2014 & 2016) ac yng Ngwobrau Aber Cyntaf Aber (Enillydd– ‘Wedding Belles, Making it Their Best Day’ 2016). Gwasanaeth eithriadol i gwsmeriaid, boed y cleientiaid yn briodferched a phriodfeibion neu yn leoliadau priodas, yw’r uchelgais sydd yn gyrru Priodasau Calon. Cysylltwch er mwyn trafod eich anghenion.