Barddoniaeth

 

samclaire2Gall barddoniaeth ychwanegu rhywbeth hudol at briodas, p’un ai ei fod yn ddarlleniad yn y gwasanaeth, yn anrheg i’r pâr neu i aelodau eraill o’r teulu/ffrindiau, neu wedi ei gynnwys ar y gwahoddiadau. Yn aml, darllennir cerddi enwog, poblogaidd mewn gwasanaethau, ond mae traddodiad cryf yng Nghymru o feirdd yn cyfansoddi cerddi i ddathlu digwyddiadau cymunedol, gan gynnwys priodasau. Mae Priodasau Calon yn cynnig gwasanaeth ysgrifennu cerddi – bydd y Prifardd Hywel Griffiths yn cyfansoddi cerdd unigrwy, bersonol yn ôl eich cyfarwyddiadau chi. Yn aml, bydd y gerdd yn cael ei hysbrydoli gan wybodaeth ynglŷn â’r pâr, neu eu rhieni, er enghraifft lle maent yn byw, lle wnaethon nhw gyfarfod, ac ati. Os mai anrheg yw’r gerdd i fod, yna gellir dylunio a fframio’r gerdd yn broffesiynol. Beth am roi anrheg i’w drysori am byth?