Geirda

 

Diolch o galon i ti Alaw am dy help a’th holl waith caled ar gyfer ein priodas ym mis Chwefror- wrth baratoi ac ar y diwrnod ei hun! Roeddet mor barod i’n helpu a chynnig awgrymiadau am bethau bach nad oeddem wedi cofio amdanynt! Nid oeddem erioed wedi meddwl y byddai trefnu priodas yn gymaint o waith ond fe wnes di bopeth yn lawer mwy hwylus a lleihau’r baich ar sawl achlysur! Roedd Shaun a minnau wrth ein boddau â’r diwrnod ac mae llawer o’r diolch i ti am hynny! 

Megan & Shaun 

 

Mae gwasanaeth Priodasau Calon wedi bod yn hynod ddefnyddiol i’r Llyfrgell Genedlaethol ac rydym yn hollol hyderus fod ganddynt yr arbenigedd a’r gallu i’n cynrychioli ym mhob ffordd. Rydym yn gweld ein perthynas fel un lle mae parch mawr gennym i’n gilydd – ond fod y ffocws pendant bob amser ar roi’r gwasanaeth gorau bosibl i’r par priod a’u gwesteion.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Am ddiwrnod arbennig! Diolch ichi ferched am dynnu popeth ynghyd, cyfathrebu gwych, mi wnaeth hyn sicrhau diwrnod ymlaciol o fwynhad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mi fuaswn yn argymhell y gwasanaeth yn llwyr. 

Dee Matthews

 

Pan oeddwn i’n cychwyn trefnu fy mhriodas nôl ym mis Medi 2011 doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau!  Diolch i’r drefn daeth fy ffrind Alaw i’r adwy gan gynnig llwyth o syniadau.  Roedd ganddi feddwl clir i drefnu’n bwyllog gan arwain y ffordd gam wrth gam. Roedd hyn yn golygu llai o bwysau arna i i orfod meddwl am bopeth, a daeth y trefniadau i ben yn hwylus.  Ar y dydd fe syrthiodd popeth i’w le – diolch yn fawr Alaw!

Diolch Hywel am ysgrifennu cerdd mor hyfryd ar gyfer achlysur ein priodas.  Roedd y geiriau yn bersonol a phwrpasol ac roedd yn ychwanegu rhywbeth arbennig i’r gwasanaeth.

Mae’r gerdd mewn ffrâm ar y wal erbyn hyn a byddwn yn ei thrysori am flynyddoedd i ddod.

Heledd & Elgan Davies

 

Dwi’n fwy na hapus gyda’r gwasanaeth a dderbyniais gan Priodasau Calon. Mae Alaw yn grêt ac yn hawdd i siarad gyda sy’n gwneud i chi ymlacio ac, yn fwy na dim, yn gwneud i chi deimlo yn gartrefol tra’n siarad am drefniadau’r diwrnod mawr! Allai ddim diolch digon i’r cwmni am y gwaith maent wedi gwneud, byddai yn sicr yn awgrymu ffrindiau i ddefnyddio Priodasau Calon wrth drefnu eu priodasau nhw. Pob lwc Alaw a diolch! 

Mari Davies

 

Gwasanaeth gwych! Cwbl ddifai! Aeth y ferch hyfryd hon y tu hwnt i’r disgwyl er mwyn tynnu diwrnod ein breuddwydion ynghyd ac rydym yn teimlo’n gyffrous iawn wrth ddisgwyl i weld popeth yn dod ynghyd. Cyfeillgar, effeithlon, gweithgar. Does dim byd yn ormod o waith, ac mae hi’n llawn cymaint o syniadau hyfryd! Mi fuaswn yn argymhell y gwasanaeth yn llwyr!

Kimmy Alderton Cutler